Age Cymru Gwynedd a Môn -Rheolwr Gofal (cau 24.04.26)

TAL: £28000 i £32000

ORIAU: LLAWN AMSER - 35 AWR YR WYTHNOS

DYDDIAD CAU: 24ain EBRILL, 2026

 

Mae Age Cymru Gwynedd a Mȏn yn chwilio am Reolwr Gofal . Fe fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu arweinyddiaeth a rheolaeth i dîm o weithwyr gofal cymdeithasol sydd yn gweithio yn y gymuned, yn bennaf yn ardal Nefyn ac

Y Felinheli.


Bydd disgwyl i chi gyflawni gofynion cofrestru a safonau perfformiad Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2017 a’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.

Disgwylir i chi weithio yn unol â chanllawiau tender gofal cartref Cyngor Gwynedd

Lleolir y swydd yn Age Cymru a Gwynedd a Mȏn yn Bontnewydd, Gwynedd

Mae gwybodaeth ychwanegol am y swydd ar gael gan Eleri Jones, Swyddog Personel, Age Cymru Gwynedd a Môn ar 01286 685920 neu drwy ebost ar lovell.eleri@acgm.co.uk

Comments

Popular posts from this blog

Tai Gogledd Cymru - swyddi