Tai Gogledd Cymru - swyddi
Yn Tai
Gogledd Cymru, rydym yn gwneud gwahaniaeth bob dydd.
Os mai
dyna beth rydych chi am ei wneud hefyd, yna rydyn ni eisiau clywed gennych chi.
Gadewch i
ni weithio gyda’n gilydd i adeiladu ar 50 mlynedd o weithio yng Ngogledd Cymru
i ddarparu cartrefi o safon, buddsoddi mewn cymunedau a chefnogi’r rhai sy’n
wynebu digartrefedd.
Rydym yn
gofalu am ein gweithwyr yn ogystal â'n tenantiaid. Yn 2021, fe wnaethom ennill
Aur Buddsoddwyr mewn Pobl, dod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd ac yn 2023
cawsom ein rhestru fel rhai ‘rhagorol i weithio iddynt’ gan y Cwmnïau Gorau i
Weithio iddynt.
Os oes
gennych yr egni, brwdfrydedd ac ymrwymiad i wneud gwahaniaeth ym mywydau pobl
eraill yna edrychwch ar ein swyddi gwag presennol ac edrychwn ymlaen at gwrdd â
chi yn fuan.
https://www.nwha.org.uk/careers/current-vacancies/
Comments
Post a Comment