Posts

Showing posts from April, 2026

Age Cymru Gwynedd a Môn -Rheolwr Gofal (cau 24.04.26)

TAL: £28000 i £32000 ORIAU : LLAWN AMSER - 35 AWR YR WYTHNOS DYDDIAD CAU: 24ain EBRILL, 2026   Mae Age Cymru Gwynedd a Mȏn yn chwilio am Reolwr Gofal . Fe fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu arweinyddiaeth a rheolaeth i dîm o weithwyr gofal cymdeithasol sydd yn gweithio yn y gymuned, yn bennaf yn ardal Nefyn ac Y Felinheli.

AGE CYMRU GWYNEDD A MȎN - PRIF SWYDDOG GWEITHREDOL (cau 24/04/26)

  AGE CYMRU GWYNEDD A MȎN    SWYDD: PRIF SWYDDOG GWEITHREDOL Dyddiad Cau: Ebrill 24ain, 2026 Gwahoddir ceisiadau am y swydd uchod a leolir yn “Y Cartref”, Bontnewydd. Bydd y person a gyflogir yn gyfrifol am redeg ein gwasanaethau i’r henoed yn siroedd Gwynedd ac Ynys Mȏn, ar ran ein Bwrdd o Ymddiriedolwyr.   Bydd y cyflog yn gymesur â swyddi tebyg yn y sector, ac yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad. Bydd cyfnod prawf o 6 mis. Un o brif ddyletswyddau’r swydd fydd gweithredu fel yr “Unigolyn Cyfrifol” (RI) am y gwasanaeth gofal o dan reolau’r CIW. Ceir manylion llawn y swydd, ac unrhyw wybodaeth ychwanegol oddi wrth: Eleri Jones, Swyddog Personel, Age Cymru Gwynedd a Môn ar 01286 685920 neu drwy e-bost: lovell.eleri@acgm.co.uk