AGE CYMRU GWYNEDD A MȎN - PRIF SWYDDOG GWEITHREDOL (cau 24/04/26)
AGE CYMRU GWYNEDD A
MȎN
SWYDD: PRIF SWYDDOG
GWEITHREDOL
Dyddiad Cau: Ebrill 24ain,
2026
Gwahoddir ceisiadau am y swydd uchod a leolir yn “Y
Cartref”, Bontnewydd.
Bydd y person a gyflogir yn gyfrifol am redeg ein
gwasanaethau i’r henoed yn siroedd Gwynedd ac Ynys Mȏn, ar ran ein Bwrdd o
Ymddiriedolwyr. Bydd y cyflog yn gymesur
â swyddi tebyg yn y sector, ac yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad. Bydd
cyfnod prawf o 6 mis.
Un o brif ddyletswyddau’r swydd fydd gweithredu fel yr
“Unigolyn Cyfrifol” (RI) am y gwasanaeth gofal o dan reolau’r CIW.
Ceir manylion llawn y swydd, ac unrhyw wybodaeth
ychwanegol oddi wrth: Eleri Jones, Swyddog Personel, Age Cymru Gwynedd a Môn ar
01286 685920 neu drwy e-bost: lovell.eleri@acgm.co.uk
Comments
Post a Comment